Wyneb dros dro

Clawr Wyneb dros droCasgliad cyntaf Gwyneth o ganeuon gwreiddiol, yn cynnwys y ffefrynau ‘Adra’ ac ‘Angeline.’ Recordiwyd yn Stiwdio Blaen y Cae, Garndolbenmaen yn 2005 dan ofal tadol y cynhyrchydd Dyl Mei. Naws syml, deimladwy sydd i’r caneuon, a chyfeiliant cynnil gitar acwstig, bwswci, pedal ddur a banjô. Yn ymuno ar ambell i gȃn mae Alun Tan Lan ac Euron Jôs.