Tro

 

TroFrontcoverBydd Gwyneth Glyn yn rhyddhau ei halbwm newydd, Tro, ar label bendigedig ar y 29ain o Fedi. Tro yw’r albwm unigol ddiweddaraf gan un o artistiaid mwyaf diddorol a disglair Cymru. Mae cariad Gwyneth at iaith, a’i chrefft a’i dawn fel cyfansoddwraig yn amlwg yn y caneuon grymus hyn. Hefyd yn ymddangos ar yr albwm mae Seckou Keita, y chwaraewr kora adnabyddus o Senegal, a Rowan Rheinigans, enillydd Gwobr Werin BBC Radio 2.