Tonau

Clawr TonauAil albym Gwyneth a’r band, sydd bellach yn cynnwys y drymiwr Pete Alan Richardson. Ceir sŵn llawnach ar ganeuon megis ‘Cȃn y siarc’ a blas o ganu gwlad ar ‘Dail Tafol’ a ‘Iȃr fach yr haf.’ Daw graen a sylw’r cynhyrchydd Dave Wrench ȃ’r cyfan ynghŷd mewn casgliad aeddfed ac annwyl – y cyntaf a ryddhawyd ar label Gwyneth ei hun – Recordiau Gwinllan.