Cainc

Clawr CaincTrydydd casgliad hirddisgwyliedig o ganeuon gwreiddiol, yn amrywio o hanes teuluol epig y ‘Dansin Bêr’ i’r anthem radio ‘Ewbanamandda’ i’r gȃn serch gofiadwy ‘Lle fyswn i’. Ceir cyfraniadau gan y basydd Llŷr Pari a Cass Meurig ar y ffidil. Taflodd y cynhyrchydd Dave Wrench ei fflachlwch unwaith eto dros gasgliad o ganeuon sydd weithiau’n ddireidus, weithiau’n ddirdynnol.