*Ghazalaw* yw’r diweddaraf i’w ryddhau ar label Cerys Matthews

Ghazalaw

Ghazalaw, albwm gyntaf eponymaidd y cywaith Cymru / India, yw’r diweddaraf i gael ei ryddhau ar label recordiau Cerys Matthews, ‘Marvels of the Universe’, mewn cydweithriad gyda Theatr Mwldan.

Caiff yr albwm ei rhyddhau ar 25ain o Fedi 2015, gyda pherfformiadau byw yng Nghymru a Lloegr yn Nhachwedd 2015 gyda chefnogaeth gan Artist y Flwyddyn BBC Gorwelion – Kizzy Crawford.

Archebwch ymlaen llaw ar amazon.co.uk o’r 17eg o Awst ymlaen.