Archifau Categori: Heb gategori

*Tro* Albwm Newydd Gwyneth Glyn Yn Rhyddhau Medi 29 2017

TroFrontcover

Bydd Gwyneth Glyn yn rhyddhau ei halbwm newydd, Tro, ar label bendigedig ar y 29ain o Fedi. Tro yw’r albwm unigol ddiweddaraf gan un o artistiaid mwyaf diddorol a disglair Cymru. Mae cariad Gwyneth at iaith, a’i chrefft a’i dawn fel cyfansoddwraig yn amlwg yn y caneuon grymus hyn. Hefyd yn ymddangos ar yr albwm mae Seckou Keita, y chwaraewr kora adnabyddus o Senegal, a Rowan Rheinigans, enillydd Gwobr Werin BBC Radio 2.

Cliciwch yma i prynnu eich gopi o Tro blaen llaw

Y diweddara o D.C.

Trydydd diwrnod yr Wyl yn barod a’r dyddiau’n carlamu heibio! Cynulleidfaoedd brwd yn gwrando’n astud ac yn llawn diddordeb yng Nghymru a’r Cymry. Rydan ni’n rhannu pabell efo Hawaiiaid hawddgar ac mae’r Hwngariaid hynaws yn ein diddanu ni efo’u halawon gwerin bob nos. Gwledd o ddiwylliant o bob cwr o’r byd yma. Mae hi’n fraint bod yn rhan o frawdoliaeth ieithoedd lleiafrifol y byd. Llun ydi hwn o Roberto o Bolivia, roth fenthyg ei jarango imi!

20130705-110147.jpg